send link to app

Straeon Celtaidd


4.6 ( 7616 ratings )
游戏 어드벤처 가족
开发 Sustrans
自由

Dewch i nabod llwybrau a chwedlau Cymru gydag App Straeon Celtaidd

Mae Straeon Celtaidd yn app hamdden newydd cyffrous i deuluoedd. Gallwch lawrlwytho’r app a chanfod hanesion hudolus a storïau swynol wrth i chi feicio trwy diroedd gwledig dymunol, ardaloedd arfordirol trawiadol a darnau dinas yn ferw o brysurdeb.

Cam 1: Dewiswch eich llwybr. Cewch ddewis o blith chwe llwybr di-draffig gwych. Os beiciwch yn hamddenol, gallwch ddisgwyl i’ch antur bara rhwng awr a thair awr yn dibynnu pa lwybr a ddewiswch.

Cam 2: Dewiswch ddilyn ‘stori hanesyddol’ neu ‘ddatrys dirgelwch’. Cewch seiclo yn ôl mewn amser ar antur hanesyddol gyda’ch tywysydd personol neu ymuno ag yr Ymchwilwraig Breifat, Maxine Hardy, i ddatgloi cliwiau a datrys sawl dirgelwch – o drafferthion gydag ysbrydion arswydus i ladradau sy’n ymddangos yn amhosib.

Cam 3: Cynlluniwch eich antur. Maer app Straeon Celtaidd yn cynnwys popeth y mae arnoch ei angen i gynllunio’ch diwrnod. O lefydd i logi beiciau a mwynhau picnic, i gaffis ac atyniadau, gallwch ddefnyddio’r app i ganfod beth sydd i’w weld a’i wneud ar bob llwybr.

Gall defnyddio GPS am gyfnodau hir darwagio batri eich ffon.